Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA184
Teitl: Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012
Gweithdrefn: Uwchgadarnhaol
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu i ffïoedd fod yn daladwy gan gyflenwr dŵr perthnasol am gyflawni swyddogaethau penodol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 gan arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf honno.
Craffu technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodwyd y pwyntiau canlynol i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.-
Er bod y pwnc (cyfrifo ffioedd archwilio a rhai cysylltiedig) yn un sy’n fwy tebygol o fod mewn offerynnau statudol sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol, mae’r offeryn hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn uwchgadarnhaol yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
Gwneir gorchmynion i’r un diben ar gyfer Cymru a Lloegr, ond oherwydd bod y pwerau galluogi yn wahanol, defnyddir dau offeryn yn hytrach nag un ar y cyd. Mantais hyn yw bod y ddeddfwriaeth sy’n gymwys i Gymru yn cael ei gwneud yn ddwyieithog.
[ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad – Rheol Sefydlog 21,3(ii)
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Hydref 2012